Cefndir a diben
Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (“Deddf 2023”) yn cydgrynhoi’r ddeddfwriaeth ar gyfer cadwraeth yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Mae Deddf 2023 yn ffurfio rhan o god o gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 13 ac Atodlen 14 i Ddeddf 2023.
Mae Atodlen 13 i Ddeddf 2023 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
Mae rheoliad 3 yn mewnosod yn Atodlen 13 newid canlyniadol i Ddeddf Harbyrau 1964.
Mae rheoliad 4 yn hepgor paragraff 73 o Atodlen 13.
Mae Atodlen 13 i Ddeddf 2023 hefyd yn gwneud newidiadau i Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“Deddf 1990”). Mae Deddf 1990 wedi’i diwygio ers hynny gan Ddeddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau i Atodlen 13 i Ddeddf 2023 yng ngoleuni’r diwygiadau hynny.
Mae Atodlen 14 i Ddeddf 2023 yn gwneud darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbed. Mae rheoliad 22 yn mewnosod darpariaeth arbed bellach yn Atodlen 14.
Y weithdrefn
Cadarnhaol drafft
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pedwar pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024 (pwyslais wedi'i ychwanegu). Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 13 ac Atodlen 14 i Ddeddf 2023. Mae Atodlen 13 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau, mae Atodlen 14 yn cynnwys darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed. Mae'r diwygiad a wneir i Atodlen 14 gan y Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaeth arbed. A all Llywodraeth Cymru gadarnhau a yw’n ystyried mai ‘Darpariaeth Ganlyniadol’ yw’r geiriad priodol i’w ddefnyddio yn nheitl y Rheoliadau hyn, neu a ddylai gyfeirio hefyd at y ddarpariaeth arbed?
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Nodir bod y Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol. Maent yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol, yn unol ag adran 209(5)(h) o Ddeddf 2023.
3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Nodir nad yw Atodlenni 13 a 14 i Ddeddf 2023 mewn grym eto. Yn unol â Gorchymyn (Cychwyn) 2024 Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, bydd Atodlenni 13 a 14 yn dod i rym ar 4 Tachwedd 2024. Daw’r Rheoliadau hyn, os cânt eu cymeradwyo gan y Senedd, i rym ar 3 Tachwedd 2024.
4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Nid oedd y Rheoliadau hyn yn destun ymgynghoriad ac nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi. Nodwn y paragraffau a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:
14. Nid oes unrhyw ymgynghori wedi'i gynnal ar y rheoliadau, gan eu bod yn adlewyrchu'r polisi presennol ac yn ailddatgan y gweithdrefnau presennol.
15. Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i baratoi ar gyfer y rheoliadau hyn, gan fod y rheoliadau'n ailddatgan rheoliadau presennol. Nid yw'r rheoliadau'n newid y polisi (na'i effaith) mewn unrhyw ffordd sylweddol na sut y caiff ei gymhwyso mewn sefyllfa benodol. Mae hyn yn unol â'r polisi a nodir yng nghod ymarfer Gweinidogion Cymru ar gyfer cynnal asesiadau effaith rheoleiddiol ar gyfer is-ddeddfwriaeth.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb Llywodraeth Cymru ar gyfer y pwynt adrodd cyntaf.
Trafodaeth y Pwyllgor
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 14 Hydref 2024 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd uchod.